Mater - cyfarfodydd

Strategeth Cyfathrebu Corfforaethol

Cyfarfod: 11/03/2020 - Pwyllgor Gwaith (eitem 10)

10 Strategaeth Cyfathrebu Corfforaethol pdf icon PDF 503 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a’r Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Masnachol yr adroddiad sydd wedi’i alinio gyda Strategaeth Fasnachol y Cyngor ac a gafodd ei gynllunio i gefnogi cyflenwi blaenoriaethau, gweledigaeth a gwerthoedd y Cyngor.

 

Gwnaeth y Prif Swyddog Masnachol gywiriad i baragraff 2.7 yr adroddiad a chadarnhaodd y caiff adroddiad ar gyflenwi’r rhaglen waith ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yn chwarterol ac nid yn flynyddol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol y bu newid sylweddol yn y tirlun cyfathrebu mewn blynyddoedd diweddar a’i bod yn hanfodol fod y strategaeth yn adlewyrchu disgwyliadau cwsmeriaid. Mae bellach sianeli lluosog i gyrraedd cynulleidfaoedd, yn cynnwys y wasg draddodiadol, a thanlinellodd ei bod yn bwysig defnyddio’r sianeli gorau yn y ffordd orau bosibl i gyrraedd cwsmeriaid.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cytuno ar y Strategaeth Cyfathrebu a’r rhaglen waith gysylltiedig (Opsiwn 1).