10 Ysbrydoli i Gyflawni a Pherfformiad Gwaith - Ionawr-Rhagfyr 2019 PDF 524 KB
Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid.
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar brosiectau lleol Ysbrydoli i Gyflawni ac Ysbrydoli i Weithio a gyllidwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Siaradodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am bobl ifanc a gefnogir i gyflogaeth, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid fod y tîm yn dilyn lan y bobl ifanc a gefnogwyd i gyflogaeth ac mae’r bobl ifanc y sonnir amdanynt yn yr adroddiad yn dal i fod mewn cyflogaeth ar hyn o bryd.
Cododd Aelod bryderon fod yr Adran yn dibynnu’n helaeth ar gyllid grant a holodd am gyllid ar ddiwedd y rhaglen yn 2022. Ni fyddai cyllid Ewropeaidd ar gael wedyn a byddai angen edrych ar gyllideb y Cyngor gan na chaiff yr holl arian ei basportio i gyllidebau ysgolion. Gofynnodd yr Aelod i’r Pwyllgor Gweithredol ystyried y goblygiadau i’r gyllideb.
CYTUNODD y Pwyllgor ar y llwybr gweithredu hwn.
Dywedodd y Cadeirydd, gan fod cyllid i ddod i ben yn 2022, bod risg y byddai staff yn edrych am swyddi eraill. Atebodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid fod staff yn ymrwymedig i’w swyddi ac wedi arfer gweithio mewn trefniadau cyllid grant, fodd bynnag gall hyn fod yn broblem ym mlwyddyn olaf y cyllid.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod Aelodau yn craffu ar yr wybodaeth a fanylir yn yr adroddiad ac yn cydrannu drwy wneud argymhellion priodol i’r Pwyllgor Gweithredol.