Mater - cyfarfodydd

Audit Plan Progress Report - October 2019 to December 2019

Cyfarfod: 28/01/2020 - Pwyllgor Archwilio (eitem 5)

5 Adroddiad Cynnydd Cynllun Archwilio - Hydref 2019 i Rhagfyr 2019 pdf icon PDF 578 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd Proffesiynol – Archwilio Mewnol yr adroddiad cynnydd ar gyfer y Cynllun Archwilio Mewnol am y cyfnod 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2019.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am yr amserlen gyfredol ar gyfer rhai adolygiadau, dywedodd yr Arweinydd Proffesiynol fod proses barhaus a hysbyswyd Aelodau am dasgau o’r dechrau i’r diwedd. Yng nghyswllt T? a Pharc Bedwellte cadarnhaodd yr Arweinydd Proffesiynol fod y cyfrif yn gyfredol ac yn barod i’w lofnodi.

 

Yng nghyswllt Dangosyddion Perfformiad, soniodd Aelod am y nifer isel o gyfweliadau dychwelyd i’r gwaith a gynhaliwyd gan reolwyr. Dywedodd yr Arweinydd Proffesiynol wrth yr Aelodau mai’r camau gweithredu a gytunwyd gyda’r Tîm Rheoli Corfforaethol oedd y cyflwynir adroddiadau perfformiad absenoldeb salwch gweithlu i bwyllgorau craffu unigol ac y gwneir hyn ar hyn o bryd.

 

Cyfeiriodd Aelod at y canran o Gamau Gweithredu a Gytunwyd a gwblhawyd ar ôl 6 mis a dywedodd fod 70% yn isel a bod angen i Reolwyr wella ar y canran. Esboniodd yr Arweinydd Proffesiynol mai dim ond 6 aelod staff sydd yn yr adran a bod profedigaeth wedi cyfrannu at y ffigurau absenoldeb salwch. Ychwanegodd y byddai’r ffigur yn sefydlog erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Holodd Aelod am yr adolygiad copïau wrth gefn a chadw yng nghyswllt Digidol a Thechnoleg Gwybodaeth. Dywedodd yr Arweinydd Proffesiynol y dynodwyd 6 gwendid, cafodd 2 eu gweithredu’n llawn, 1 ei weithredu’n rhannol a 3 heb eu gweithredu. Bu rhai newidiadau staff yn yr adran sydd wedi arwain at oedi wrth weithredu newidiadau, fodd bynnag mae cadw dogfennau wedi symud ychydig ymlaen. Cynhaliwyd asesiad risg ar y gwendidau oedd ar ôl a pharhawyd â’r broses ymchwilio.

 

Mewn ymateb i gwestiwn Aelod am oblygiadau cyfreithiol archwiliadau copïau wrth wrth gefn a chadw, esboniodd y Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant na fyddai’n cael ei ystyried fel torri diogelwch, ond byddai’n torri cydymffurfiaeth.

 

Holodd Aelod am yswiriant. Dywedodd y Rheolwr Archwilio a Risg na chafodd cynllun gweithredu ei baratoi hyd yma ond y byddai’n barod ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor. Yng nghyswllt yr adolygiad archwiliad o Fudd-dal Tai, cyflwynir adroddiad cynnydd i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Yng nghyswllt yr archwiliad systemau o Iechyd a Diogelwch Corfforaethol, soniodd Aelod am nifer y damweiniau nad oedd yn cael eu cofnodi. Esboniodd y Rheolwr Archwilio a Risg y cynhaliwyd y canfyddiadau archwilio mewn cysylltiad gyda Chynghorwyr Iechyd a Diogelwch. Dywedodd y Cynghorydd Iechyd a Diogelwch y cynhaliwyd trafodaethau am adroddiadau ar ddamweiniau ac y cafodd y camau gweithredu a gytunwyd eu rhoi ar waith. Cadarnhaodd hefyd fod y canllawiau Asesu Risg swyddogol oedd ar gael i’r holl staff wedi cynnwys camgymeriad ac y cafodd hyn ei unioni erbyn hyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd ar weithgareddau am y cyfnod mis Hydref i fis Rhagfyr 2019.