Mater - cyfarfodydd

Adolygiad o Bolisi Dyrannu Cartrefi Blaenau Gwent

Cyfarfod: 29/01/2020 - Pwyllgor Gwaith (eitem 8)

8 Adolygiad o Bolisi Dyrannu Cartrefi Blaenau Gwent pdf icon PDF 606 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm, Datrysiadau Tai a Chydymffurfiaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Datrysiadau Tai a Chydymffurfiaeth.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd yr adroddiad sy'n amlinellu'r polisi a newidiadau gweithredol a gynigir i Gynllun Dyrannu Cartrefi Blaenau Gwent, yn dilyn yr adolygiad diweddar o'r cynllun a'r broses ymgynghori. Aeth y Swyddog drwy'r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo; mae'r manylion a gynigir i'r polisi yn Atodiad 3.

 

Yng nghyswllt yr ymgynghoriad a gynhaliwyd, gofynnwyd cwestiwn am ymgysylltu Aelodau ac ymddiheurodd y Swyddog os na ymgynghorwyd yn uniongyrchol â phob aelod ar y cynigion. Fodd bynnag cafodd yr adroddiad ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ac maent yn rhoi cefnogaeth lawn i'r newidiadau arfaethedig i'r Cynllun.

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod Aelod Gweithredol yr Amgylchedd hefyd yn llwyr gefnogol i'r cynigion.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cymeradwyo'r newidiadau polisi a gynigir i Gynllun Dyrannu Tai Cartrefi Blaenau Gwent i'w weithredu ar 1 Ebrill 2020 (Opsiwn 1).