Mater - cyfarfodydd

Progress Report - Social Services Assisted Transport Provision

Cyfarfod: 29/01/2020 - Pwyllgor Gwaith (eitem 10)

10 Adroddiad Cynnydd - Darpariaeth Cymorth Cludiant Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 652 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Ar wahoddiad yr Arweinydd, cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad sy'n rhoi dadansoddiad o'r galw presennol ac amlinellodd argymhellion ar gyfer costau posibl yn y dyfodol ar gyfer dinasyddion yn defnyddio cludiant yn seiliedig ar gostau trafnidiaeth cyhoeddus cymharol. Mae'r adroddiad yn dilyn cyflwyno'r Polisi Cymorth Cludiant o fis Ebrill 2019 gan gynnal asesiadau cymhwyster ar gyfer dinasyddion newydd a phresennol. Yn dilyn cwblhau'r asesiadau hyn, cytunwyd y rhoddir adborth i'r Pwyllgor Gweithredol.

 

Yn nhermau'r cefndir, dywedodd fod Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cludo 190 dinesydd y dydd 'i ac o' safleoedd opsiynau cymunedol, 120 dinesydd y dydd ar gyfartaledd. Yn hanesyddol, darperir cymorth cludiant i ddinasyddion sy'n mynychu opsiynau cymunedol heb unrhyw asesiad ffurfiol o angen i ddefnyddio cludiant o'r fath, h.y. bu hawl awtomatig beth bynnag yw sefyllfa unigolyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai un o nodau allweddol y Gyfarwyddiaeth yw cynyddu annibyniaeth a gostwng dibyniaeth dinasyddion er mwyn galluogi unigolion i fyw a theithio'n annibynnol o fewn eu cymunedau. Nid yw'n ddyletswydd statudol ar Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu cludiant ond mae ganddynt ddyletswydd i ddiwallu'r angen hwnnw os na all yr angen gael ei gyflawni gan adnoddau yr unigolyn ei hun neu adnodd cymunedol. Ymhellach, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fe wnaethom fabwysiadu egwyddor cynnal asesiad seiliedig ar gryfder sy'n ystyried adnoddau dinasyddion, yn cynnwys mynediad i'w cerbyd symudedd eu hunain, pas bws neu hawl i fudd-dal.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at adrannau 2.4 a 2.5 yr adroddiad sy'n dweud fod galw wedi gostwng yn Ebrill 2019 a bod yr Adran wedi medru rhoi'r gorau i un cerbyd, gan wneud y dyraniad cyllideb presennol am gludiant opsiynau cymunedol yn £321k.

 

Dywedodd y bydd Aelodau hefyd yn nodi y cynhaliwyd 149 asesiad gan weithwyr cymdeithasol i benderfynu ar gymhwyster a chaiff manylion hyn eu hamlinellu yn adran 7 yr adroddiad. Fodd bynnag, mae'r ffigurau wedi newid ers paratoi'r adroddiad ac mae nawr 101 o unigolion yn cael mynediad annibynnol i opsiynau cymunedol. Barnwyd bod 24 o unigolion yn gymwys ac y byddent yn cael cludiant ac am ddim a barnwyd fod gan 14 amgylchiadau eithriadol yn wreiddiol ond bod hyn yn anffodus wedi gostwng i 11 yn ddiweddar oherwydd marwolaeth tri ohonynt, a rydym yn gofyn am godi tâl am ddefnyddio cludiant opsiynau cymunedol ar yr 11 unigolyn hyn.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Aelodau at adran 4.3 yr adroddiad sy'n rhoi rhai o sylwadau dinasyddion sy'n cael mynediad annibynnol i'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Er mwyn darparu ar gyfer hyn a chefnogi rhieni, cadarnhaodd y cafodd yr oriau agor y ddau ben i'r dydd er mwyn gwneud y gwasanaeth yn fwy hyblyg.

 

Cyfeiriodd wedyn at yr opsiynau a amlinellir yn yr adroddiad ac argymhellodd Opsiwn 1. Mae hyn yn gydnaws gyda Pholisi Incwm 2014 y Cyngor sy'n argymell adfer cost llawn lle'n briodol. Dywedodd fod Opsiwn 2 yn anelu i godi cost gyfwerth â chostau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer defnyddio'r cerbydau. Byddai'r ddau  ...  view the full Cofnodion text for item 10