5 Dalen Weithredu - 9 Rhagfyr 2019 PDF 95 KB
Derbyn dalen weithredu.
Cofnodion:
Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2019, yn cynnwys:
Dalen Weithredu - 14 Tachwedd 2019 - Adolygiad Gwasanaeth Hamdden a Diwylliant
Mynegodd Aelod ei siom fod Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol wedi gwrthod y cais i ganiatáu i holl Aelodau Pwyllgorau Craffu gymryd rhan yn y drafodaeth yn ymwneud ag Adolygiad Gwasanaethau Hamdden a Diwylliant yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Chwefror 2020.
Nodwyd adeg y cyflwynwyd y cynnig gwreiddiol i sefydlu''r Ymddiriedolaeth Hamdden, yr agorwyd cyfarfod o'r Pwyllgor Graffu i holl aelodau Pwyllgorau Craffu i drafod y cynnig (gyda dim ond yr Aelodau hynny a benodwyd i'r Pwyllgor yn cael caniatâd i bleidleisio ar y cynnig).
Aeth yr Aelod ymlaen drwy ddweud fod Gweithgor wedi gwneud cryn dipyn o waith dros y 12-18 mis diwethaf ar y mater a'i bod yn anffodus gan nad oedd holl aelodau'r Gweithgor yn aelodau o'r Pwyllgor Gwasanaethau Cymunedol na fyddent yn medru cymryd rhan na chael cyfle i roi adborth i'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen newydd ar y gwaith a wnaed hyd yma.
Nodwyd fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi nodi'n flaenorol nad oedd yr adolygiad o Gwasanaethau Hamdden yn cynnwys ymgyfraniad amserol ac ystyrlon gan Aelodau Pwyllgor Craffu.
Daeth yr Aelod i ben drwy ailadrodd ei siom y cafodd y cais am Gydbwyllgor Craffu ei wrthod ac awgrymodd, hyd yn oed pe na wahoddid Aelodau'r Gweithgor gwreiddiol i'r Pwyllgor, fan leiaf oll y dylid gwahodd y Cadeirydd - y Cynghorydd P. Edwards - i fynychu'r cyfarfod hwnnw.
Awgrymodd y Swyddog Craffu y dylid gwneud cynnig i Gadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol h.y. y dylid gwahodd y Cynghorydd P. Edwards (Cadeirydd y Gweithgor) i gyfarfod Pwyllgor mis Chwefror i gymryd rhan yn y drafodaeth yng nghyswllt yr Adolygiad o'r Gwasanaethau Hamdden a Diwylliant.
Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y cafodd y gwaith a wnaed gan y Gweithgor ei gynnwys o fewn adroddiad terfynol yr Adolygiad o'r Gwasanaethau Hamdden a Diwylliant.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi'r ddalen weithredu.