5 Adroddiad Gweithgaredd Rheoli Adeiladu ar gyfer mis Ionawr 2019 - mis Hydref 2019 PDF 266 KB
Ystyriedadroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Adeiladu a Chynlluniau Datblygu. |
Cofnodion:
Ystyriodd Aelodau adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Adeiladu a Chynlluniau Datblygu.
Cyflwynodd y Rheolwr Tîm yr adroddiad sy'n amlinellu gwaith y Tîm Rheoli Adeiladu, yn cwmpasu gwaith tebyg i geisiadau rheoleiddio adeiladu, gorfodaeth/datblygiad heb ganiatâd a strwythurau peryglus a gwnaeth gymariaethau gyda gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn flaenorol (2018) ar gyfer yr un amserlen. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi newidiadau rheoli cyffredinol a newidiadau i reoliadau a gwybodaeth perfformid.
Aeth y Swyddog drwy'r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.
Gofynnodd Aelod os yw'r Tîm Rheoli Adeiladu yn rhoi dyfynbrisiau i ddatblygwyr mawr sy'n dod i'r ardal. Cadarnhaodd y Swyddog Rheoli Adeiladu y cysylltir â datblygwyr ar y cam cyn-cynllunio i weld os oedd ganddynt ddiddordeb mewn caffael gwaith rheoli adeiladu CBS Blaenau Gwent.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau hefyd y cynnig gwarant cyfateb pris i ddatblygwyr, ac mae Swyddogion Cynllunio hefyd yn hyrwyddo gwasanaethau rheoli adeiladu pan maent yn cwrdd gyda datblygwyr mewn ymholiadau rhagarweiniol ac yn y blaen.
Cyfeiriodd Aelod at y nifer o strwythurau peryglus a gofynnodd os oedd hyn yn cynnwys colofnau goleuadau stryd a ddifrodwyd fel canlyniad i ddamweiniau car.
Dywedodd y Swyddog y byddai'r math yma o ddigwyddiadau yn cael eu cynnwys yn y ffigurau ar gyfer y nifer o 'alwadau allan'. Cadarnhaodd y byddai Swyddog Rheoli Adeiladu yn ymateb i ddigwyddiad ac yn penderfynu os dylid ei ddosbarthu fel strwythur peryglus.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, esboniodd y Swyddog Rheoli Adeiladu fod Hysbysiadau Adeiladu yn gysylltiedig gyda phrosiectau llai neu newidiadau i adeiladau presennol lle byddai Arolygydd Adeiladu yn cymeradwyo'r gwaith wrth iddo fynd rhagddo. Ar y llaw arall, mae cais cynllunio llawn yn gysylltiedig gyda datblygiadau newydd mwy ac adeiladau masnachol a diwydiannol a byddai angen cyflwyno manylion llawn y gwaith a gynigir ar gyfer ei gymeradwyo cyn i unrhyw waith gael ei wneud ar y safle.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth ynddo.