Mater - cyfarfodydd

Quarterly Performance Information Quarter 2 July to September 2019

Cyfarfod: 13/12/2019 - Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu (eitem 4)

4 Gwybodaeth Perfformiad Chwarterol, Chwarter 2 mis Gorffennaf i fis Medi 2019 pdf icon PDF 333 KB

Ystyriedadroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth yr wybodaeth perfformiad ar gyfer Chwarter 2 am y cyfnod mis Gorffennaf i fis Medi 2019. Mae perfformiad yn parhau'n gyson ac mae Blaenau Gwent yn gydradd ail yng Nghymru am benderfynu ceisiadau cynllunio 'ar amser'. Mae tabl 2 ar dudalen 8 yr adroddiad yn dangos fod Blaenau Gwent yn y 10fed safle yn nhermau'r amser cyfartalog i benderfynu ar geisiadau a dywedodd y Swyddog yr hoffai weld y sefyllfa honno'n gwella. Mae tabl 3 yn dangos safleoedd awdurdodau cynllunio lleol yn cymryd penderfyniadau yn groes i argymhelliad Swyddog ac mae Blaenau Gwent yn y 22 safle gyda 33%. Mae'r ffigur hwn yn uchel iawn ac yn uwch na chyfartaledd Cymru.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan Aelod am nifer y penderfyniadau a gymerwyd yn groes i argymhelliad Swyddog, cydnabu'r Swyddog nad oedd penderfyniadau cynllunio byth yn ddiamwys. Fodd bynnag, mynegodd bryder fod y ffigur hwn yn gyson uchel ar gyfer y Cyngor o gofio am nifer y ceisiadau a ddaw i law a bod angen edrych arno.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth ynddo.