4 Gwybodaeth Perfformiad Chwarterol, Chwarter 2 mis Gorffennaf i fis Medi 2019 PDF 333 KB
Ystyriedadroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth yr wybodaeth perfformiad ar gyfer Chwarter 2 am y cyfnod mis Gorffennaf i fis Medi 2019. Mae perfformiad yn parhau'n gyson ac mae Blaenau Gwent yn gydradd ail yng Nghymru am benderfynu ceisiadau cynllunio 'ar amser'. Mae tabl 2 ar dudalen 8 yr adroddiad yn dangos fod Blaenau Gwent yn y 10fed safle yn nhermau'r amser cyfartalog i benderfynu ar geisiadau a dywedodd y Swyddog yr hoffai weld y sefyllfa honno'n gwella. Mae tabl 3 yn dangos safleoedd awdurdodau cynllunio lleol yn cymryd penderfyniadau yn groes i argymhelliad Swyddog ac mae Blaenau Gwent yn y 22 safle gyda 33%. Mae'r ffigur hwn yn uchel iawn ac yn uwch na chyfartaledd Cymru.
Mewn ymateb i sylwadau gan Aelod am nifer y penderfyniadau a gymerwyd yn groes i argymhelliad Swyddog, cydnabu'r Swyddog nad oedd penderfyniadau cynllunio byth yn ddiamwys. Fodd bynnag, mynegodd bryder fod y ffigur hwn yn gyson uchel ar gyfer y Cyngor o gofio am nifer y ceisiadau a ddaw i law a bod angen edrych arno.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth ynddo.