Mater - cyfarfodydd

Prosbectws Ynni

Cyfarfod: 09/12/2019 - Pwllgor Craffu Adfywio (eitem 6)

6 Prosbectws Ynni pdf icon PDF 611 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm yr adroddiad sy'n gofyn am gefnogaeth Aelodau i argymell y drafft Brosbectws Ynni i'r Pwyllgor Gweithredol ei gymeradwyo, er mwyn ei ryddhau a'i farchnata i ddarpar bartneriaid prosiect a buddsoddwyr. Gobeithid y byddai'r Prosbectws yn dangos y dull rhagweithiol y mae'r Cyngor yn ei gymryd i gynyddu cynhyrchu yn lleol a chynnig cyfraniad sylweddol at ostwng ein ôl-troed carbon.

 

Wedyn aeth y Swyddog drwy'r adroddiad yn fanwl a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Holodd Aelod am ansawdd aer ym Mlaenau Gwent a hefyd pa fanteision y gellid eu disgwyl ar ôl gweithredu'r cynlluniau arfaethedig. Roedd yn amheus am ddefnyddio cerbydau trydan oherwydd, er y bu rhai datblygiadau, mae'r seilwaith yn dal heb fod yn ei le ar gyfer cerbydau trydan.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod ansawdd aer yn y Fwrdeistref yn cael ei fonitro ac y rhoddir adroddiad blynyddol arno drwy'r Pwyllgor Craffu. Nid oes unrhyw broblemau gyda ansawdd aer ar hyn o bryd a gobeithir y bydd rhai o'r cynlluniau a amlinellir yn y Prosbectws Ynni yn sicrhau'r sefyllfa honno. Yn nhermau gweithredu prosiectau, roedd cyllid sylweddol ar gael i'w fuddsoddi mewn prosiectau ynni ac mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ostwng ein ôl-troed carbon.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio fod gostwng yr ôl-troed carbon ar yr agenda cenedlaethol ac y gall targedau gael eu gosod yn y dyfodol a chosbau ariannol am beidio cyrraedd y targedau hynny. Yng nghyswllt sylwadau Aelod am gerbydau trydan, dywedodd y Swyddog fod hyn hefyd yn rhan o'r agenda cenedlaethol ac yn rhywbeth na allai'r Cyngor fforddio peidio rhoi ystyriaeth iddo. Fodd bynnag, mae cyllid cenedlaethol ar gael i gefnogi'r cynllun hwn.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn cefnogi'r adroddiad yn llwyr ac yn ei groesawu. Fel rhan o gynigion Pontio'r Bwlch, mae'r Awdurdod wedi ymrwymo i ostwng ei ôl-troed carbon i sero erbyn 2030 a dywedodd fod y Prosbectws hwn yn dystiolaeth ein bod yn symud tuag at y targed hwnnw.

 

Ychwanegodd Aelod arall ei fod ef hefyd yn croesawu'r adroddiad ond teimlai y gellid ei ymestyn i gynnwys y gymuned ehangach.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog mai man cychwyn yn bendant iawn yw'r Prosbectws, ac yr ymddangosai'n briodol i edrych ar fusnesau yn y lle cyntaf gan mai hwy yw'r defnyddwyr ynni mwyaf yn y Fwrdeistref. Fodd bynnag, mae llinyn arall o'r rhaglen yn dynodi'r angen i ddeall sut mae ein preswylwyr yn defnyddio ynni a'r hyn y gellir ei wneud i'w helpu i ostwng eu ôl-troed carbon.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Craffu yn cefnogi Prosbectws Ynni Blaenau Gwent ac yn argymell ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gweithredol (Opsiwn 2).