Mater - cyfarfodydd

Cydadroddiad Cyllid a Pherfformiad

Cyfarfod: 05/12/2019 - Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol (eitem 7)

7 Adroddiad ar y Cyd Cyllid a Pherfformiad Chwarter 1 a 2 (Ebrill i Medi) pdf icon PDF 411 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Dywedodd y Pennaeth Partneriaethau a Llywodraethiant fod yr adroddiad ar y cyd Cyllid a Pherfformiad yn amlinellu chwarteri 1 a 2 sy'n cwmpasu mis Ebrill i fis Medi 2019. Dywedodd y Swyddog y cafodd yr adroddiad ei wella i roi fformat mwy hylaw ac y byddai'n parhau i fod yn ddogfen 'fyw' i roi ystyriaeth i'r adborth a gafwyd.

 

Ar y pwynt hwn aeth y Cadeirydd drwy'r adroddiad a chafodd y cwestiynau/pwyntiau dilynol eu codi.

 

Cyfeiriodd Aelod at alinio'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Bwrdd Partneriaethau Rhanbarthol a gofynnodd os cafodd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Corfforaethol ei lunio mewn modd priodol i roi'r amserlenni priodol ar gyfer y materion sy'n cael eu hystyried.

 

Dywedodd y Pennaeth Partneriaethau a Llywodraethiant y datblygwyd cylch o gyfarfodydd i alinio'r Pwyllgor Craffu gyda rhaglen y cyfarfodydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhelir yn chwarterol, a bod hyn yn rhoi llwybr adrodd cydlynus. Roedd alinio'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol am sut y caiff eu ffrydiau gwaith ei alinio i'r Rhaglen Llesiant Integredig. Roedd hyn yn enghraifft dda o ble gallai dau fwrdd ddod ynghyd a byddai trafodaethau'n mynd rhagddynt drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'u cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu unwaith iddynt gael eu cymeradwyo.

 

Nododd yr Aelod ymhellach y gwaith ar y cyd yn yr adroddiad sy'n cyfeirio at drefniadau cydweithio'r SRS a dywedodd nad dyma'r unig waith ar y cyd a wneir ar draws y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod yr adroddiad yn nodi gwaith ar gyfer chwarteri 1 a 2 ac nad oedd yn dogfennu'r holl waith partneriaeth, dim ond y meysydd lle'r aeth gwaith rhagddo yn y chwarteri penodol. Ychwanegodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod llawer iawn o waith ar y cyd ar draws y Cyngor ac ym mhob gwasanaeth yn cynnwys y Fargen Ddinesig, Cymoedd Technoleg a Thasglu'r Cymoedd. Teimlid y byddai'n fanteisiol i adrodd pob gwaith ar y cyd a gwaith partneriaeth. Fodd bynnag nodwyd y caiff adroddiadau cynnydd ar y Fargen Ddinesig eu cyflwyno'n rheolaidd i'r Pwyllgor Craffu ac y caiff adroddiad ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Cyngor ar 12 Rhagfyr 2019.

 

Yn dilyn cais ar gyfer Sesiwn Wybodaeth Aelodau ar drefniadau gwaith a y cyd a gwaith partneriaeth ar draws y Cyngor, dywedwyd y gellid cynnal sesiwn wybodaeth ar adfywio i aelodau. i drafod gwaith ar y cyd gan y Gyfarwyddiaeth. Gwnaed cais pellach am ddechrau'n hwyr yn y bore a chytunodd y Pennaeth Partneriaethau a Llywodraethiant i ddarparu ar gyfer y cais.

 

Nododd Aelod y cynnig cyfalaf a gyflawnwyd ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a gofynnodd os y cyflwynir adroddiad i hysbysu Aelodau ar y prosiect sydd ar y gweill.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol y bu'r cynnig cyfalaf am y cynnig gofal plant a dynodwyd ysgolion i weithio gyda nhw yn eu gosodiadau presennol. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cyflwynir adroddiad i'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr amser priodol.

 

Cydnabu Aelod faint o waith da sy'n mynd rhagddo mewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Cytunodd y Cadeirydd gyda'r  ...  view the full Cofnodion text for item 7