4 Dalen Weithredu - 19 Tachwedd 2019 PDF 99 KB
Derbyn dalen weithredu.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019, yn cynnwys:-
Teledu Cylch Cyfyng (CCTV)
Gofynnwyd am i Aelodau gael gweld ansawdd y delweddau a gynhyrchir gan y system CCTV newydd. Dywedodd Pennaeth Partneriaethau a Llywodraethiant y gellid trefnu hyn cyhyd ag y dilynwyd prosesau cyfreithiol a diogelu data perthnasol.
Cyfeiriodd Aelod arall at ymweliad a drefnwyd i Aelodau i'r ganolfan alwadau yng Nghasnewydd oedd bryd hynny yn gweithredu CCTV i'r Awdurdod. Fe wnaeth yr ymweliad alluogi Aelodau i gael golwg ar yr ansawdd a delweddau o bob rhan o'r Fwrdeistref. Roedd yr Aelod yn sylweddoli'r angen am wiriad diogelu cyfreithiol a data, fodd bynnag dywedodd fod Aelodau Etholedig yn destun ymrwymiadau cyfrinachedd pan gânt eu hethol ac felly teimlai y gellid ymddiried mewn Aelodau i edrych ar ddelweddau.
Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau nad oedd problem gydag ymddiriedaeth, fodd bynnag oherwydd cyfreithiau diogelu data roedd gan unigolion hawl i'w gwybodaeth gael ei gwarchod. Ychwanegodd y Prif Swyddog nad oedd y delweddau yn 'ffrydio byw' ac na fedrid mwyach eu gweld mewn canolfan alwadau, felly byddai'n rhaid lawrlwytho'r recordiad i DVD a byddai angen i unrhyw unigolion yn y lluniau gael eu picsileiddio allan gan swyddogion Technoleg Gwybodaeth cyn ei weld. Cytunodd y Prif Swyddog i roi ystyriaeth i'r cais i ganfod beth fedrid ei ddarparu i Aelodau.
CYTUNWYD ar y llwybr gweithredu hwn.
CYTUNODD y pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi'r ddalen weithredu.