Mater - cyfarfodydd

Gwybodaeth Perfformiad Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyfarfod: 02/12/2019 - Cyd-bwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) (eitem 7)

7 Gwybodaeth Perfformiad Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg - 1 Ebrill i 30 Mehefin 2019 pdf icon PDF 633 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant a'r Rheolwr Strategol Gwella Addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant a Rheolwr Strategol Gwella Addysg, a gyflwynwyd i roi gwybodaeth ar berfformiad diogelu gyda ffocws ar ddadansoddiad o Wasanaethau Cymdeithasol Plant ac Addysg o 1 Ebrill i 30 Mehefin 2019.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Effaith ar y Gyllideb

 

Yng nghyswllt ceisiadau llys a chostau cyfreithiol, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod nifer y ceisiadau llys yn sefydlog a bod y Tîm Diogelu yn awr yn gweithio ar gapasiti llawn a bod y ddau wedi cael effaith gadarnhaol ar y gyllideb, er fod weithiau angen comisiynu ymgynghorydd allanol ar gyfer ymddangosiadau llys. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y cynhaliwyd profion o'r farchnad a bod gwaith yn mynd rhagddo i weld os gallai awdurdodau lleol eraill ddarparu'r gwasanaeth i Flaenau Gwent.

 

Gofynnodd i Aelod am gynnwys y graffiau yn ymyl y geiriad perthnasol er mwyn eglurdeb yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddid yn edrych ar fformat yr adroddiad ar gyfer dibenion eglurdeb.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Gofynnodd Aelod os mai'r heddlu yw'r ffynhonnell fwyaf o atgyfeiriadau. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y rôl Ditectif Ringyll yn y gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) yn gwneud cyfraniadau cadarnhaol i'r broses ddiogelu. Nid yw atgyfeiriadau gan yr heddlu wedi gostwng ond mae safon yr wybodaeth a gafwyd wedi gwella sydd wedi arwain at wneud penderfyniadau gwell drwy wasanaethau ataliol tebyg i'r rhaglen Gweithredu'n Gynnar Gyda'n Gilydd. Holodd yr Aelod hefyd am atgyfeiriadau gan yr Ymddiriedolaeth Hamdden. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth fod yr holl staff wedi eu hyfforddi mewn Lefel 1 Diogelu i adnabod arwyddion camdriniaeth ac y gall rhai atgyfeiriadau gan yr heddlu fod wedi deillio oddi wrth staff yr Ymddiriedolaeth Hamdden. Dywedodd y Pennaeth Trawsnewid Addysg fod gan yr Ymddiriedolaeth Hamdden swyddogion arweiniol ar gyer diogelu ond y gall atgyfeiriadau fod yn isel gan fod y rhan fwyaf o ddarpariaeth hamdden yn fynediad agored a rhoddodd sicrwydd i Aelodau fod trefniadau cadarn ar waith.

 

Categorïau cam-driniaeth

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am brif gategori cam-driniaeth, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth mai esgeulustod yw'r prif gategori; hwn oedd uchaf oherwydd rhesymau megis rhianta, y cartref neu fregusrwydd oherwydd tlodi a diffyg arian. Cam-drin emosiynol yw'r ail uchaf, byddai cam-driniaeth iechyd meddwl yn cyflwyno fel cam-driniaeth emosiynol felly byddai'r categori eilaidd yn mynd law yn llaw. Defnyddir mesurau ataliol heriol drwy weithio partneriaeth, addysg a hysbysu rhieni am effaith camdriniaeth emosiynol y plentyn.

 

Tynnodd Aelod sylw am gamgymeriad ar dudalen 37, Ffigur 2.4 Dadansoddiad o blant ar y gofrestr diogelu plant, dylai'r wybodaeth a elwir yn Anhysbys ddarllen Gwryw.

 

Gadawodd y Cynghorwyr Martin Cook a Wayne Hodgins y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Gwybodaeth am Addysg

 

Cyflwynodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg y wybodaeth am Addysg.

 

Holodd Aelod am y nifer uchel o ymyriadau corfforol cyfyngol yn ystod tymor yr Hydref. Esboniodd y Pennaeth Trawsnewid Addysg mai tymor yr Hydref yw'r tymor hiraf fel arfer, fodd bynnag mae'r tueddiad yn gyson gydag adroddiadau  ...  view the full Cofnodion text for item 7