Mater - cyfarfodydd

Progress on the Implementation of the Safe Reduction of Children Looked After Strategy 2017 - 2020

Cyfarfod: 28/11/2019 - Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol (eitem 5)

5 Cynnydd ar Weithredu Strategaeth Gostwng yn Ddiogel y Nifer o Blant sy'n derbyn Gofal 2017-2020 pdf icon PDF 767 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynwyd i ddiweddaru Aelodau ar y cynnydd a wnaed yng nghyswllt gweithredu Strategaeth Gostwng yn Ddiogel y Nifer o Blant sy’n Derbyn Gofal 2017-2020.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am warcheidwaid arbennig, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fel arfer mai aelodau teulu estynedig megis mam-guod a thad-cuod, modrabedd ac ewythrod oedd gwarcheidwaid arbennig fel arfer.

 

Holodd Aelod am yr anawsterau o recriwtio seicolegydd ymgynghorol. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y cafodd y rôl seicolegydd ei hysbysu ar ddau achlysur gwahanol heb unrhyw ymgeiswyr. Roedd prinder seicolegwyr ac er fod yr Awdurdod yn gystadleuol gyda bandio, roedd cyllid grant yn dymor byr.

 

Yng nghyswllt strategaeth gostwng y nifer o blant sy’n derbyn gofal, dywedodd y Cadeirydd ei bod yn cael ei gwerthuso’n annibynnol gan Brifysgol Caerwrangon a holodd os oedd y Cyngor wedi gweithio gyda Chyngor Casnewydd wrth ddatblygu’r tîm Cefnogi Newid. Atebodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod yr Awdurdod wedi edrych ar fodelau Casnewydd a hefyd Gwynedd ac wedi dewis dilyn model Gwynedd.

 

Holodd Aelod am daliadau i warcheidwaid arbennig a lefel y gofal a roddir i dorri’r cylch i bobl ifanc i fyw bywyd da a pheidio dod yn ôl i ofal. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod lefel y gefnogaeth i Warcheidwaid Arbennig yn cynnwys:-

 

·        Yr awdurdod lleol yn datblygu cynllun yn amlinellu’r gefnogaeth a roddir i hyrwyddo lleoliad llwyddiannus.

·        Lwfansau i warcheidwaid arbennig – byddai’r awdurdod yn asesu sefyllfa ariannol y gwarcheidwad arbennig a rhoi cefnogaeth ariannol os oes angen. Byddai hyn wedyn yn cael ei adolygu’n flynyddol.

·        Os yw lleoliad yn torri lawr, byddai’r tîm yn edrych ar sefyllfa’r plentyn a cheisio aelod arall o’r teulu i ofalu amdanynt fel amgen i ddod i ofal.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am gefnogaeth ariannol Gwasanaethau Plant, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y cynhaliwyd profion marchnad meddal gydag un cwmni cyfraith preifat a bod un awdurdod lleol wedi mynegi diddordeb mewn darparu gwasanaethau cyfreithiol i Gyngor Blaenau Gwent yn y dyfodol. Holodd Aelod os byddai manteision cost i gyflogi Cyfreithiwr Plant yn hytrach na defnyddio cyfreithwyr allanol costus. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant y cynhaliwyd y darn hwn o waith a bu anawsterau mewn recriwtio Cyfreithwyr Gofal Plant Awdurdod Lleol. Mae’n parhau i ymchwilio gweithio partner gydag awdurdodau lleol eraill ac yn disgwyl unrhyw ddiddordeb mewn cefnogi Blaenau Gwent gyda’r ddarpariaeth yma.

 

Holodd Aelod pam fod swydd gweithiwr cymorth cyfryngu yn un ran-amser. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant mai dim ond un swydd ran-amser y mae cyllid yn ei gefnogi, fodd bynnag mae hyn yn ychwanegol at y swydd lawn-amser sydd eisoes yn ei lle.

 

Yng nghyswllt ymyriad cynnar, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant y sefydlwyd Gweithiwr Cymorth Addysg yn y tîm Cefnogi Newid i gynnig cymorth addysg ar gyfer plant a theuluoedd i blant sydd mewn risg o fynd i ofal. Mae’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf wedi gweithio’n agos gydag  ...  view the full Cofnodion text for item 5