Mater - cyfarfodydd

Perfformiad Absenoldeb Salwch

Cyfarfod: 19/11/2019 - Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol (eitem 14)

14 Perfformiad Absenoldeb Salwch pdf icon PDF 899 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu a herio perfformiad absenoldeb salwch 2018/19 a’r camau gweithredu a gynigir ar gyfer gwella.

 

Siaradodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Cafodd Cadeirydd y Gangen – Unsain wahoddiad gan y Cadeirydd i annerch y Pwyllgor.

 

Dywedodd Cadeirydd y Gangen, fel canlyniad i 9 mlynedd o fesurau llymder, bod awdurdodau lleol wedi derbyn setliadau is gan Lywodraeth Cymru sy’n golygu fod yn rhaid i Gynghorau wneud mwy gyda llai ac fel canlyniad bu cynnydd sylweddol mewn llwyth gwaith staff.  Nododd nad yw 95% o’r staff yn cymryd unrhyw absenoldeb salwch ac y byddai’n annheg caniatáu i leiafrif staff sarnu enw da’r Awdurdod yng ngolwg y cyhoedd a’r wasg.

 

Mae’r Polisi Absenoldeb Salwch yn addas i’r diben, fodd bynnag, mae angen i reolwyr ei ddefnyddio’n fwy effeithlon. Os yw ffigurau absenoldeb salwch yn uchel mewn maes neilltuol, mae angen i Reolwyr ddeall y rhesymau am y ffigurau hynny a mynd i’r afael yn brydlon yn eu sesiynau un i un gyda staff. Mae angen gwerthfawrogi y staff hynny sy’n rhoi blaenoriaeth ac yn aros yn y gwaith.

 

Mae Unsain wedi buddsoddi mewn iechyd meddwl drwy dalu am gyrsiau i staff eu mynychu a bu’n gweithio’n ddiflino gyda Datblygu Sefydliadol a’r Prif Swyddog Masnachol i ddynodi meysydd lle mae absenoldeb salwch yn uchel. Dywedodd fod gan yr Awdurdod weithlu heneiddiol gyda rhai staff rheng flaen â swyddi corfforol tebyg i godi pobl. Tanlinellodd fod angen datblygu strategaeth os disgwylir i staff weithio nes byddant yn 67 mlwydd oed, er ei fod yn ymwybodol o’r darlun cyffredinol gan mai awdurdod bach yw Blaenau Gwent.

 

Holodd y Cadeirydd am iTrent, system electronig Adnoddau Dynol/Cyflogres. Dywedodd y Pennaeth Datblygiadol y cafodd hunan-wasanaeth rheoli ei ymestyn ym mis Ebrill 2019 ac y cafodd y system electronig a’r system gofnodi â llaw ar gyfer cofnodi absenoldeb salwch eu rhedeg yn gyfochrog am gyfnod i gefnogi rheolwyr. Datblygwyd dangosfwrdd absenoldeb salwch a byddai’n weithredol cyn y flwyddyn newydd a fyddai’n galluogi dadansoddiad estynedig ar dueddiadau salwch.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am adolygiadau chwarterol o absenoldeb salwch, esboniodd y Pennaeth Datblygu sefydliadol fod gwybodaeth i reolwyr yn cael ei datblygu’n fisol ac y byddai trafodaethau manwl yn chwarterol mewn Timau Rheoli Cyfarwyddiaethau.

 

Dywedodd Cadeirydd y Gangen y cafodd y Gwasanaeth Cwnsela ei ddadgomisiynu oherwydd arbedion cyllideb a dymunai edrych ar ffyrdd i ailddechrau hyn fel gwasanaeth efallai drwy Iechyd Galwedigaethol gan fod cwnsela yn wasanaeth gwerthfawr a buddiol i staff yn ymwneud â materion llesiant ac yn y blaen. Dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol fod cynlluniau yn eu lle i adolygu’r contract Iechyd Galwedigaethol a byddai’n edrych ar y cyfle fel rhan o’r trefniant hwnnw.

 

Cyfeiriodd Aelod ar y camau gweithredu rheoli yn deillio o ymgysylltiad y Tîm Arweinyddiaeth Corfforaethol a soniodd am yr effeithlonrwydd rheolwyr a theimlai y dylid eu gallu i gyfrif os nad yw rheolwyr yn dilyn y camau  ...  view the full Cofnodion text for item 14