Mater - cyfarfodydd

Treth Gyngor - Dileu Lwfans Disgownt Eiddo Gwag ar gyfer Anheddau Dosbarth C a Ragnodwyd

Cyfarfod: 19/11/2019 - Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol (eitem 13)

13 Treth Gyngor - Dileu Lwfans Disgownt Eiddo Gwag ar gyfer Anheddau Dosbarth C a Ragnodwyd pdf icon PDF 555 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a gyflwynwyd i roi manylion y polisi presennol yng nghyswllt disgownt Treth Gyngor.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Gofynnodd Aelod os gellid gosod ardoll unwaith y gwerthir eiddo a fu’n wag am gyfnod hir. Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y gellid ymchwilio’r cynnig hwn ond mai’r ffocws yw cael eiddo’n ôl i safon i bobl fyw ynddynt. Mae grantiau ar gael ar hyn o bryd i ddod ag eiddo’n ôl i  safon y gellir byw ynddynt.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am gyfraddau casglu, dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod cyfraddau casglu tua 95%.

 

Holodd Aelod os byddai angen rhoi hysbysiad ymlaen llaw. Atebodd y Prif Swyddog Adnoddau, pe byddai’r Pwyllgor yn cytuno gyda’r cynnig, y byddai angen cysylltu gyda landlordiaid a pherchnogion/meddianwyr cyn 2020.

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod Llywodraeth Cymru yn newid y fformiwla cyllido ac ni fyddai mwyach yn rhoi ystyriaeth i’r disgownt ar gyfer eiddo Dosbarth C. Gallai’r Cyngor weld gostyngiad o tua £480,000 mewn cyllid.

 

Nododd y Cadeirydd baragraff 6.3 sy’n cyfeirio at y llu o ganlyniadau cadarnhaol wrth annog eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Pwyllgor Craffu yn ystyried ac argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo gosod y disgownt cyfredol ar gyfer anheddau Dosbarth A, B a C ar 0% yn weithredol o 1 Ebrill 2020.