9 Pontio’r Bwlch – Adolygiad Busnes Strategol Ffioedd a Thaliadau PDF 585 KB
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a gyflwynwyd i ddiweddaru Aelodau ar yr Adolygiad Busnes Strategol ar Ffioedd a Thaliadau.
Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Cyfeiriodd Aelod at eitemau gwastraff swmpus a chododd bryderon am agwedd iechyd a diogelwch eitemau’n cael eu gadael ar balmentydd ac ymyl ffyrdd am gyfnodau hir cyn eu casglu. Dywedodd y Cadeirydd y caiff yr eitem hon ei chyfeirio at y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol.
Dywedodd Aelod ei bod yn croesawu’r model adfer cost llawn a dull cyfrif a fedrai alinio ffioedd a thaliadau.
Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod am y 700 llinell o ffioedd a thaliadau, dywedodd y Prif Swyddog Masnachol y defnyddir dull mewn camau i adolygu a gweithredu’r dull cyfrifo adferiad cost llawn. Mae’n gweithio gyda deiliaid cyllideb a phartneriaid busnes cyllid am brofi’r farchnad a byddai’r ffigurau a ddynodir yn dangos lle mae cyfle i wneud adferiad cost llawn.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yn ystyried a chraffu’r dull gweithredu a gynigir ac atodiad 1.