Mater - cyfarfodydd

Defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn Cyffredinol ac wedi'u Clustnodi 2019/2020

Cyfarfod: 18/11/2019 - Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) (eitem 9)

9 Defnyddio Cronfeydd wrth gefn Cyffredinol ac wedi'u Clustnodi 2019/2020 pdf icon PDF 556 KB

Ystyried adroddiad Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy'n rhoi rhagolwg sefyllfa cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2019/2020 fel yn Chwarter 2 (30 Medi 2019). Mae'r rhagolwg o falans y gronfa gyffredinol wrth gefn ar 31 Mawrth 2020 o £6.136m yn 4.58% o'r gwariant refeniw net a adroddwyd yn ffurflenni All-dro Refeniw 2018/19. Byddai'r gronfa gyffredinol wrth gefn felly yn £0.775m sy'n uwch na'r lefel targed 4% o £5.361m.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod y Cydbwyllgor Craffu'r Gyllideb yn:

 

·       Nodi'r rhagolwg cynnydd a fwriedir i'r Gronfa Gyffredinol wrth Gefn i 4.58% (uwch na'r lefel targed 4%) ar gyfer 2019/2020 a blynyddoedd y dyfodol gan gryfhau gwytnwch ariannol y Cyngor;

·       Ystyried yr effaith a gaiff y rhagolwg o'r amrywiad anffafriol o £0.007m ar gyfer 2019/20 ar y targed Cronfa Gyffredinol wrth Gefn; a

·       Pharhau i herio gorwariant y gyllideb a gweithredu cynlluniau gweithredu gwasanaeth priodol, lle mae angen.