Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau sy'n rhoi rhagolwg y sefyllfa all-dro ariannol ar draws pob portffolio ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 (fel ar 30 Medi 2019) ac i adolygu'r camau gweithredu a gymerwyd i symud tuag at sefyllfa all-dro cytbwys.
Dywedodd y Swyddog fod hwn yn adroddiad cadarnhaol a bod y rhagolwg o'r sefyllfa ariannol gyffredinol ar draws pob portffolio fel ar 31 Mawrth 2020 yn dangos amrywiad anffafriol cymharol fach o £7,200 o gymharu â chyfanswm cyllideb refeniw net o £147m. Roedd hyn yn welliant ar y rhagolwg sefyllfa a adroddwyd yn chwarter 1. Wedyn siaradodd am yr adroddiad a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo.
Amgylchedd - amrywiad anffafriol £259k
Cyfeiriodd Aelod at Atodiad 4 sy'n amlinellu'r camau i gael eu cymryd i fynd i'r afael â'r amrywiad anffafriol, yn neilltuol ostwng dwfn-lanhau canol trefi a chwistrellu chwyn. Dywedodd fod y weinyddiaeth bresennol, yn y Cyngor ym mis Gorffennaf 2019, wedi rhoi ymrwymiad i roi blaenoriaeth i lanhau strydoedd dros y 5 mlynedd nesaf a gofynnodd Aelod os bwriedir symud ymaith o'r flaenoriaeth honno.
Cyfeiriodd hefyd at ddatblygu ail HWRC yn Roseheyworth a'r costau refeniw cysylltiedig. O gofio am yr amrywiad anffafriol o fewn Portffolio'r Amgylchedd, gofynnodd os yw'n ariannol hyfyw i'r Cyngor ac os yw'r HWRC wedi disodli blaenoriaeth yr Arweinyddiaeth ar gyfer glanhau strydoedd. Mynegodd bryder fod yr amrywiad anffafriol o fewn y portffolio ar ôl trosglwyddo arian i'r portffolio, a chyn i'r HWRC ddod yn weithredol.
Mewn ymateb dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymunedol ac Adfywio fod glanhau strydoedd yn parhau'n flaenoriaeth i'r Cyngor ond bod angen y camau gweithredu hyn i gael cyllideb gytbwys. Un o'r heriau allweddol oedd y cynnydd mewn didoli bagiau du ond mae ailgylchu'n parhau i wella a gobeithir y byddai'n hybu gostyngiad mewn costau er mwyn cael cyllideb gytbwys, ac wedyn ein galluogi i barhau â'r gweithgareddau y mae'r Cyngor wedi ymrwymo i'w cyflawni.
Gofynnodd Aelod arall os medrid cynnal rhai o'r gweithgareddau glanhau stryd 'yn fewnol' er mwyn gostwng costau.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod rhai o'r camau gweithredu a amlinellwyd yn yr adroddiad yn rhai tymor byr ac y byddai cyfle i adolygu ac ystyried cyfleoedd eraill wrth i'r gyllideb fynd rhagddi.
Dywedodd Aelod nad oedd dim yn yr adroddiad i awgrymu bod blaenoriaethau'r Cyngor wedi newid yn wleidyddol. Mae'r adroddiad yn amlinellu'r angen ar gyfer 'torri'n ôl' er mwyn cael cyllideb gytbwys a gall fod angen hyn ar draws pob portffolio.
Gwasanaethau Cymdeithasol
Yng nghyswllt cynhyrchu incwm, gofynnodd Aelod os oes unrhyw gynigion i ehangu'r cyfleusterau sydd ar gael yn Nh? Augusta.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymunedol y cynhaliwyd astudiaeth dichonolrwydd ac y sicrhawyd cyllid Llywodraeth Cymru i ddatblygu cyfleusterau ychwanegol ar gyfer ardal Gwent yn ehangach.
Safle Carafanau Cwmcrachen
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am broblemau cyflenwad trydan yn y safle, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymunedol ac Adfywio fod trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda'r cwmni ynni am osod mesuryddion unigol yn y safle.
Gofynnodd Aelod os y gallai'r Awdurdod roi ... view the full Cofnodion text for item 7