6 Rheoli Lleoedd Disgyblion a'r Stad Ysgolion 2018/19 PDF 463 KB
To consider the report of the Education
Transformation Manager.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Trawsnewid Addysg.
Cyflwynodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg yr adroddiad sy'n rhoi cyfle i Aelodau graffu ar reolaeth lleoedd disgyblion gyda ffocws ar brosesau a hefyd deilliannau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am broblemau capasiti a rhagamcaniadau disgyblion mewn ysgolion arbennig, dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg y byddai'r tîm Cynhwysiant yn edrych ar gapasiti ysgolion arbennig par rhagamcaniadau disgyblion. Bu galw sylweddol am leoedd yn yr ysgol arbennig ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar y ddogfen ymgynghori i ehangu i ddarparu ar gyfer niferoedd disgyblion.
Gofynnodd yr Aelod am ychwanegu gwybodaeth am yr ysgol arbennig at adroddiadau i Aelodau eu hystyried yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg y cynhwysir adroddiad yn y flaenraglen gwaith ac y cynhwysir gwybodaeth ar yr ysgol arbennig mewn adroddiadau yn y dyfodol.
CYTUNODD y Pwyllgor i weithredu fel hyn.
Holodd Aelod eraill sut y byddai'r tîm Trawsnewid Addysg yn trin lleoedd dros ben. Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg fod gwaith ar gynllun gweithredu i ostwng lleoedd dros ben yn cael ei ddatblygu ar gyfer ysgolion a byddai'r tîm yn edrych ar y rhagamcan o nifer disgyblion ar y tueddiadau cyfredol, ymchwilio trefniadau addysgu, edrych ar ffigurau poblogaeth disgyblion yn y dyfodol a chyflwyno mesurau tymor byr i fonitro nifer disgyblion.
Mae'r tîm Addysg yn gweithio'n agos gydag ysgolion i fonitro capasiti yn unol â rhagamcaniadau a gyda ffocws ar yr hyn sydd ei angen ar gyfer yr ysgol neilltuol dan sylw. Byddai'r tîm yn edrych ar hunan-gymorth ar gyfer ysgolion i reoli eu gofodau yn fwy effeithiol.
Holodd Aelod os yw'r tîm yn derbyn gwybodaeth gan yr Adran Gynllunio yng nghyswllt datblygiadau preswyl newydd. Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Addysg fod y tîm wedi edrych ar ddatblygiadau cyfredol sydd wedi'u cymeradwyo a chynigion ar y gweill ac y byddent yn cynnwys datblygiadau a gymeradwywyd yn rhagamcaniadau'r tîm.
CYTUNWYD YMHELLACH gan y Pwyllgor i argymell, yn amodol yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Pwyllgor Craffu wedi ystyried yr adroddiad a rhoi sylwadau yn gysylltiedig â gwelliannau y gellir eu gwneud i'r prosesau monitro presennol.