Mater - cyfarfodydd

Charter of Common Agreement between the Community and Town Councils and Blaenau Gwent County Borough Council

Cyfarfod: 13/11/2019 - Pwyllgor Gwaith (eitem 8)

8 Siarter Cytundeb Cyffredin rhwng y Cynghorau Cymuned a Thref a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent pdf icon PDF 492 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyd Swyddogion.

 

Nododd yr Arweinydd y Siarter Cytundeb Cyffredin rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a phob un o'r pedwar Cyngor Cymuned a Thref a gytunwyd gyda'r holl Gynghorau Tref a Chymuned. Dywedodd yr Arweinydd y byddai'r Siarter yn rhoi dull gweithredu mwy strategol a pherthnasol rhwng Cynghorau Tref a'r Cyngor Bwrdeistref.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo'r Siarter Cytundeb Cyffredin newydd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a'r pedwar Cyngor Cymuned a Thref. Cymeradwywyd y Siarter gan y Cynghorau Cymuned a Thref a'i gadarnhau gan aelodau QLC ym mis Medi 2019.