Manylion y penderfyniad

Staff Survey 2019 - Summary Results

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol

Statws Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol fod yr adroddiad yn amlinellu canfyddiadau lefel uchel Arolwg Staff 2019 ynghyd â chamau gweithredu rheoli yn gysylltiedig gyda'r canlyniadau. Ychwanegodd y Prif Swyddog fod yr Awdurdod wedi cynnal arolygon staff bob dwy flynedd ers 2014 er mwyn canfod lefelau o ymgysylltu staff gyda blaenoriaethau'r Cyngor. Mae hefyd yn rhoi cyfle i fonitro eu lefelau llesiant. Cynhaliwyd yr arolwg rhwng Ionawr a Mawrth 2019 a nodwyd fod y nifer a gymerodd ran eleni wedi cynyddu. Rhoddodd y Prif Swyddog Masnachol amlinelliad pellach o'r gweithgareddau a gynhaliwyd yn dilyn dadansoddiad o'r data o'r canlyniadau.

 

Nododd y Prif Swyddog Masnachol ymhellach y prif ganfyddiadau o'r arolwg fel y manylir yn yr adroddiad sy'n cynnwys cyfradd ymateb gwell, gwelliant mewn bodlonrwydd staff gyda staff yn teimlo fod ganddynt fwy o gymhelliant yn eu swyddi a'u bod yn fwy gwybodus. Bu cynnydd mewn cyfathrebu ar draws yr Awdurdod, teimlai staff eu bod yn medru sicrhau cydbwysedd gwaith/bywyd ac roedd staff yn fwy tebygol i siarad yn gadarnhaol am y Cyngor ac eraill y tu allan i'r gwaith.

 

Gofynnodd y Cadeirydd pam fod arwyddion fod gostyngiad yn amlder cyfarfodydd un-i-un staff a chyfarfodydd tîm. Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol y dylid cofnodi cyfarfodydd un-i-un ac felly bod angen i reolwyr fod yn gwybod y dylid cofnodi sgyrsiau perfformiad pan gânt eu cynnal. Mae hawl i gael y trafodaethau hynny yn rhan o'r cytundeb cyflogaeth gyda gweithwyr cyflogedig.

 

Cyfeiriodd Aelod at y nifer uchel o staff o fewn yr Adran Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol na fyddai ganddynt fynediad i e-bost i gymryd rhan yn yr arolwg a gofynnodd sut y caiff y gweithwyr cyflogedig hyn eu hannog i lenwi'r arolwg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod gan yr Adran nifer o'r weithlu ar batrymau gwaith hollt ac y cynhaliwyd trafodaeth ar sut i gysylltu gyda'r gweithwyr cyflogedig hynny. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn anodd cyrraedd rhai staff nad oedd yn seiliedig mewn swyddfa ac mae nifer o ffyrdd y gallai Adrannau ymgysylltu gyda'r gweithwyr cyflogedig hyn yn cael eu hystyried.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog Masnachol, er fod yr arolwg yn gweddu rhai staff, bod angen edrych sut y gellid ei gynnig mewn gwahanol ffyrdd i weddu i'r holl staff.

 

Croesawodd yr Is-gadeirydd yr adroddiad cadarnhaol ac roedd yn galonogol gweld fod staff yn hapus ac yn teimlo wedi eu hymrymuso. Gofynnodd os oedd yr Awdurdod wedi cysylltu â staff seiliedig mewn ysgolion.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol nad yw staff seiliedig mewn ysgol yn cael eu cynnwys ar hyn o bryd, fodd bynnag nid oedd unrhyw reswm pam na fedrent gymryd rhan ac ychwanegodd y gellid cynnal trafodaethau gydag ysgolion i ganfod y ffordd orau i gylchredeg yr arolwg i gael ei gwblhau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r adroddiad cyn cyflwyno'r adroddiad i'r Pwyllgor Gweithredol.

 

Awdur yr adroddiad: Liz Thomas

Dyddiad cyhoeddi: 03/02/2020

Dyddiad y penderfyniad: 05/12/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/12/2019 - Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol

Accompanying Documents: