Manylion y penderfyniad

Medium Term Financial Strategy and Bridging the Gap

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol

Statws Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a'r Prif Swyddog Masnachol.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad yn amlinellu'r Strategaeth Ariannol Tymor Canol ac yn rhoi'r dull gweithredu y cynigir y byddai'r Cyngor yn ei ddilyn i drin heriau ariannol dros y 5 mlynedd nesaf. Ychwanegodd y Prif Swyddog fod y Strategaeth hon yn elfen allweddol yng ngwaith cynllunio strategol y Cyngor sy'n cefnogi cydnerthedd a chynaliadwyedd ariannol y Cyngor. Mae'r Strategaeth, ynghyd â rhaglen Pontio'r Bwlch, yn cynnig y dull gweithredu y byddai'r Cyngor yn ei dilyn i drin heriau ariannol dros y 5 mlynedd nesaf.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y bu oedi cyn cyhoeddi Setliad Llywodraeth Leol oherwydd yr Etholiad Cyffredinol ar 12 Rhagfyr 2019. Y bwriad gwreiddiol oedd iddo fod ar gael ddiwedd mis Tachwedd, fodd bynnag disgwylir y setliad terfynol yn awr ar 16 Rhagfyr 2019. Mae'r oedi wedi achosi goblygiadau ar gyfer y broses gosod cyllideb a chynllunio'r gostyngiadau cyllid gwirioneddol i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2020/2021, fodd bynnag byddai'r Strategaeth yn cael ei diwygio yn dilyn y cyhoeddiad.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog yr Aelodau at yr wybodaeth a fanylir yn yr adroddiad a'r atodiadau sy'n amlinellu'r bwlch cyllideb o £16.2m dros y 5 mlynedd nesaf. Hefyd, nodwyd y cynnydd ar yr Adolygiadau Busnes Strategol gyda'r cyflawniad ariannol cyffredinol tuag at y bwlch cyllideb yn cael ei asesu ar hyn o bryd rhwng £5.4m a £7.9m dros gyfnod y Strategaeth. Nododd y Prif Swyddog ymhellach y byddai'r amcangyfrif o gyflawniad ariannol yr Adolygiadau Busnes Strategol yn arwain at fwlch cyllid gweddilliol o rhwng £8m a £10m dros y pum mlynedd nesaf. Fodd bynnag, cafodd y cynigion ar gyfer 2020/2021 eu datblygu ar draws pob portffolio i liniaru bylchau cyllid.

 

Cododd Aelod bryderon am y gostyngiad parhaus yn y cyllidebau a theimlai na fedrid gostwng gwasanaethau'r Cyngor a staff rheng flaen ymhellach. Nododd yr Aelod ymrwymiad y Cyngor i roi blaenoriaeth i Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol ac roedd wedi gobeithio y gellid cynyddu neu o leiaf gynnal yr arian a ddarperir i ysgolion. Ategodd yr Aelod ei bryderon am y gostyngiadau mewn staff a dywedodd y byddai'r setliadau cyllideb is o bryder i staff gan y cafodd swyddi eu colli mewn rhai achosion.

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod colli swyddi yn bryder i bawb, fodd bynnag mae'n hanfodol fod yr Awdurdod yn byw o fewn yr adnoddau sydd ganddo ac yn blaenoriaethu gwariant yn unol â hynny.

 

CYTUNODD y Pwyllgor y dylid derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1, sef bod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol:

·     wedi ystyried a chytuno ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canol;

·     nodi'r bwlch cyllid a ragwelir ar gyfer cyfnod y Strategaeth Ariannol Tymor Canol; a

·     chytuno ar y cynigion o fewn yr Adolygiadau Busnes Strategol a roddir yn Atodiad 1 y Strategaeth Ariannol Tymor Canol.

 

Awdur yr adroddiad: Liz Thomas

Dyddiad cyhoeddi: 03/02/2020

Dyddiad y penderfyniad: 05/12/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/12/2019 - Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol

Accompanying Documents: